Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Tachwedd 2018

Amser: 08.30 - 09.03
 


Preifat

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AC (Cadeirydd)

Darren Millar AC

Rhun ap Iorwerth AC

Neil Hamilton AC

Staff y Pwyllgor:

Aled Elwyn Jones (Clerc)

Eraill yn bresennol

Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Anfonodd Arweinydd y Tŷ ei hymddiheuriadau oherwydd salwch.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y ddau gyfarfod blaenorol ar gyfer eu cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Busnes yr wythnos hon

 

Bydd y Llywodraeth yn cadarnhau cyn gynted â phosibl pwy fydd yn cyflawni dyletswyddau Arweinydd y Tŷ yn y Cyfarfod Llawn.

 

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am wybodaeth am y gyfran o adroddiadau gan bwyllgorau y neilltuwyd amser i’w trafod yn y Cyfarfod Llawn, a chytunwyd y dylid trefnu o leiaf un ddadl gan wrthblaid bob wythnos o hyn ymlaen.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 28 Tachwedd 2018 -

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwerthu Cymru i’r Byd (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

</AI6>

<AI7>

4       Deddfwriaeth

</AI7>

<AI8>

4.1   Cyfnod 3 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i geisio ail-drefnu rhywfaint o fusnes y Cynulliad o ddydd Mercher 5 Rhagfyr i ddydd Mawrth 27 Tachwedd fel y gallai'r Llywodraeth drefnu'r ddadl Cyfnod 3, a gofynnwyd i'r Llywodraeth esbonio pam na ellid dwyn y ddadl ynghylch yr M4 ymlaen o 4 Rhagfyr er mwyn creu lle ar gyfer y ddadl Cyfnod 3.

</AI8>

<AI9>

5       Pwyllgorau

</AI9>

<AI10>

5.1   Dyrannu lleoedd a chadeiryddion pwyllgorau rhwng grwpiau

Dywedodd Darren Millar na fyddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn derbyn y cynnig i gadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau gael ei hailddyrannu i'r Ceidwadwyr Cymreig oni fydd materion eraill yn cael eu datrys yn gyntaf. Cadarnhaodd Rhun ap Iorwerth a Darren Millar nad oedd y cyfarfod rhwng y ddau arweinydd wedi arwain at unrhyw gytundeb newydd. Ar sail hynny, penderfynodd y Rheolwyr Busnes beidio â threfnu cynnig i ail-ddyrannu cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau, a bydd y dyraniad presennol o Gadeiryddion i grwpiau'r pleidiau yn aros fel y mae am y tro.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at drafod y lle gwag ar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.

</AI10>

<AI11>

Unrhyw fater arall

Aelodaeth Pwyllgorau

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid ychwanegu cynnig i ethol Llyr Gruffydd fel aelod o Bwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i agenda'r Cyfarfod Llawn yfory.

 

Cynnig y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y bydd cynnig a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i benodi Douglas Bain yn Gomisiynydd Safonau Dros Dro yn cael ei ychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw.

 

Biliau Aelodau

 

Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y bydd y bleidlais ar gyfer Biliau Aelod yn cael ei chynnal ddydd Mercher nesaf ac mai'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno Bil oedd y dydd Iau cyn hynny. Gofynnodd iddynt atgoffa eu haelodau o'r cyfle i gynnig Bil ar gyfer y bleidlais ac i gael gwared ar unrhyw gynigion a allai fod yn amherthnasol bellach.

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>